First Hydro Company

Safle’r Mynydd Gwefru

Safle’r Mynydd Gwefru

Bydd y maes parcio presennol ar safle’r Mynydd Gwefru yn ailagor yn ffurfiol ddechrau mis Ebrill fel Maes Parcio Talu ac Arddangos dan reolaeth Initial Parking Management.

Mae’r penderfyniad i reoli’r maes parcio wedi cael ei wneud mewn ymateb i gwynion a dderbyniwyd gan y cymunedau cyfagos ynghylch sbwriel, gweithgareddau gwrthgymdeithasol a diffyg cydymffurfio gan ddefnyddwyr y maes parcio.

Bydd y maes parcio’n cael ei wella ar gyfer modurwyr a’r gymuned mewn gwahanol ffyrdd:

Bydd y gwaith o osod arwyddion a pheiriannau talu ac arddangos newydd yn dechrau o 3 Ebrill 2024 ymlaen.

Bydd Initial Parking Management yn gosod system rheoli maes parcio drwy gamerâu ANPR (Adnabod Rhifau Cerbyd yn Awtomatig). Mae camerâu ANPR yn cofnodi rhifau pob cerbyd sy’n mynd i mewn/allan o’r maes parcio gyda thystiolaeth ffotograffig i ychwanegu lefel o ddiogelwch.

Bydd y camera ANPR yn effeithiol ac yn amlwg yn lleihau nifer y bobl sy’n osgoi talu yn y maes parcio. Bydd hefyd yn darparu cyfleuster cyflawn gwell, a fydd o fudd i holl ddefnyddwyr y maes parcio a’n cymunedau mewn sawl ffordd.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y prosiect ailddatblygu, neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, cysylltwch â: communityhelp@electricmountain.co.uk.

Oriel

Safle’r Mynydd Gwefru
Safle’r Mynydd Gwefru
Safle’r Mynydd Gwefru
Safle’r Mynydd Gwefru
Safle’r Mynydd Gwefru
Safle’r Mynydd Gwefru
Safle’r Mynydd Gwefru
Safle’r Mynydd Gwefru
Safle’r Mynydd Gwefru
Safle’r Mynydd Gwefru
Safle’r Mynydd Gwefru