First Hydro Company

Gorsaf Bŵer Dinorwig

Gorsaf Bŵer Dinorwig

Pan gafodd ei chomisiynu’n llawn yn 1984, roedd Gorsaf Bŵer Dinorwig yn cael ei hystyried yn un o brosiectau peirianyddol ac amgylcheddol mwyaf dychmygus y byd.

Heddiw, mae’r ffordd y mae Dinorwig yn gweithio a’r gallu i ymateb mor gyflym yn dal i gael eu cydnabod ledled y byd. Dinorwig yw’r cynllun mwyaf o’i fath yn Ewrop.

Yn Ninorwig mae 16km o dwnelau tanddaearol, yng nghrombil mynydd Elidir. I’w hadeiladu, roedd angen 1 miliwn tunnell fetrig o goncrit, 200,000 tunnell fetrig o sment a 4,500 tunnell fetrig o ddur.

Mae chwe uned gynhyrchu bwerus yr orsaf yn sefyll yn y ceudwll mwyaf i gael ei greu gan ddyn yn Ewrop. Gerllaw mae siambr y brif falf fewnlif ble mae’r peiriannau sy’n rheoli llif y dŵr trwy’r tyrbinau.

Mae pympiau/tyrbinau cildroadwy Dinorwig yn gallu cynhyrchu ar eu heithaf mewn llai nag 16 eiliad. Gan ddefnyddio trydan y tu allan i’r oriau brig, bydd y chwe uned yn cael eu troi’n bympiau i symud dŵr o’r gronfa ddŵr isaf, yn ôl i Farchlyn Mawr.

FFEITHIAU A FFIGURAU AM DDINORWIG

Data Pwll Ymchwydd:

Maint pwll ymchwydd80x40x14 metr o ddyfnder
Diamedr siafft ymchwydd30 metr
Dyfnder siafft ymchwydd65 metr

Generadur/Moduron:

MathSiafft fertigol, pôl amlwg, oeri ag aer
Nerth generadur330 MVA
Nerth modur312 MVA
Foltedd terfynnell18kV
CyffröyddUnionydd thyristor
Offer cychwynAmledd newidiol statig

Newidydd Generadur-Modur:

NiferChwech
Nerth yn fras340 MVA
Cymhareb foltedd18 kV/420 kV
Ceudyllau Tanddaearol:
Pellter yr orsaf bŵer oddi mewn i’r mynydd750 metr
Dyfnder y neuadd dyrbinau dan lefel uchaf Llyn Peris71 metr

Neuadd y Peiriannau:

Hyd180 metr
Lled23 metr
Uchder51 metr ar ei uchaf

Neuadd y Newidyddion:

Hyd160 metr
Lled23 metr
Uchder17 metr
Hyd twnnel dargyfeirio2,208 metr
Lled6.5 metr
Uchder5.5 metr
Llif uchaf60 metr ciwbig/eiliad
Llif arferol1-8 metr ciwbig/eiliad
Cwymp1:1500

Pwmp/Tyrbinau:

MathFrancis Cildroadwy
Nifer6
GosodiadGwerthyd fertigol
Mewnbwn pŵer arferol i’r pwmp275 MW
Cyfnod pwmpio (cyfaint llawn)7 awr
Buanedd cydamseredig500 rpm
Uned lawn gyfartalog dros bob pen (cynhwysedd a gyhoeddwyd)288 MW Potensial cynhyrchu ar lwyth llawn
Allbwn5 awr
Gofynion pŵer yr Orsaf wrth gynhyrchu12 MW
Modd gweithredol wrth law-
Wedi cydamseru ac yn troelli mewn aer Cyfradd godi llwyth mewn argyfwng o fod wrth law0 to 1,320 MW mewn 12 eiliad

Offer switsio Trawsyrru:

MathSF6 cladin metel
Gallu brecio35,000 MVA
Nerth cyfredol4,000 A
Foltedd420 kV

Cloddio:

Y prif gloddio tanddaearol1 miliwn metr ciwbig (tua 3 miliwn tunnell fetrig)
Cyfanswm cloddio’r cynllun12 miliwn tunnell fetrig