First Hydro Company

Egwyddorion Pwmpio a Storio

Egwyddorion Pwmpio a Storio

Mae trydan dŵr pwmpio a storio yn gweithio ar egwyddor syml iawn.

Mae angen dwy gronfa ddŵr ar wahanol uchder. Pan fydd y dŵr yn cael ei ryddhau o’r gronfa ddŵr uchaf, bydd ynni yn cael ei greu gan y llif tuag i lawr sy’n cael ei gyfeirio trwy siafftiau gwasgedd uchel, wedi’u cysylltu â thyrbinau.

Yn eu tro, bydd y tyrbinau yn troi’r generaduron i greu trydan.

Bydd dŵr yn cael ei bwmpio’n ôl i’r gronfa ddŵr uwch trwy gysylltu siafft bwmpio â siafft y tyrbin, gan ddefnyddio modur i yrru’r pwmp.

Mae moduron y pympiau yn cael eu gyrru gan drydan o’r Grid Cenedlaethol – fel arfer bydd y broses yn digwydd dros nos pan fydd y galw am drydan ar ei isaf.

Ymateb dynamig – mae chwe uned gynhyrchu Dinorwig yn gallu cyrraedd ei allbwn mwyaf, o ddim, o fewn 16 eiliad.

Mae cynhyrchu trydan trwy bwmpio a storio yn ddull allweddol wrth gefn yn ystod cyfnodau pan fydd y galw am drydan o system y grid cenedlaethol yn arbennig o uchel.