First Hydro Company

Tir Mynediad Agored

Tir Mynediad Agored

Mae Cwmni First Hydro yn derbyn bod angen darparu dyletswydd gofal ble mae risgiau y byddai’n rhesymol disgwyl i ni gynnig diogelwch rhagddynt. Nid yw’r ddyletswydd hon yn ymestyn i bobl sy’n barod i dderbyn risgiau, fel heicwyr a cherddwyr. Fodd bynnag, y mae angen i ni ystyried y sefyllfa yn ofalus dros ben er mwyn cadw at y ddeddf a phenderfynu ar yr hyn y byddai’n rhesymol ei ddisgwyl gennym i ddiogelu’r cyhoedd pan fyddant ar ein tir.

Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy roi ystyriaeth i fynediad y cyhoedd yn yr asesiad risg ar gyfer busnes Cwmni First Hydro. Bydd y risgiau sy’n gysylltiedig â gwaith penodol ar ein tir yn cael eu hasesu yn unigol.

Dan y ddeddf newydd ‘Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000’, nid oes dyletswydd gofal ar Gwmni First Hydro o ran y risgiau sy’n codi o nodweddion naturiol, afonydd, nentydd, pyllau, clogwyni, ffosydd, neu gamddefnyddio waliau, ffensys neu giatiau ar eu tir, oni bai iddynt greu’r risg yn fwriadol neu ganiatáu i hynny ddigwydd yn ddi-hid.